Rhif y ddeiseb: P-06-1229

Teitl y ddeiseb: Cynyddu’r cyllid ar gyfer Clinigau Hunaniaeth Rywedd yng Nghymru.

Geiriad y ddeiseb: Ar hyn o bryd, dim ond un Clinig Hunaniaeth Rywedd (GIG) sydd yng Nghymru. Yn y GIG, rhaid aros rhwng 24 a 30 mis am yr apwyntiad cyntaf, heb sôn am weddill y driniaeth. Mae pethau’n anodd i bobl drawsryweddol yng Nghymru yn barod ac mae’r ffaith mai dim ond un GIG sydd yng Nghymru, a honno ag amseroedd aros afresymol o hir, yn hynod niweidiol, yn enwedig i bobl ifanc drawsryweddol. Mae angen cyllid ychwanegol.

 

 


1.        Cefndir

Cyflwynwyd deiseb o’r enw ‘cynyddu’r cyllid ar gyfer Clinigau Hunaniaeth Rywedd yng Nghymru’ i’r Pwyllgor Deisebau.

Ar hyn o bryd mae un Clinig Hunaniaeth Rhywedd yng Nghymru a’r amseroedd aros i rywun gael cynnig apwyntiad yw 24-30 mis.

Cafodd Gwasanaeth Rhywedd Cymru ei greu yn 2019 ac mae’n cynnwys Tîm Rhywedd Cymru amlddisgyblaethol gweinyddol a chlinigol, Timau Rhywedd Lleol (LGT) a Gwasanaeth Ychwanegol dan Gyfarwyddyd i wella cefnogaeth mewn gofal sylfaenol.

Mae Tîm Rhywedd Cymru wedi’i leoli yn Ysbyty Dewi Sant yng Nghaerdydd. Mae Timau Rhywedd Lleol (LGT) wedi’u lleoli ym mhob bwrdd iechyd ac yn cynnwys meddyg sy’n rhagnodi therapïau hormonau, a therapydd lleferydd ac iaith.

Nid oes unrhyw ddata swyddogol ar nifer y bobl yng Nghymru sy’n ystyried bod ganddynt rywfaint o amrywiaeth rhywedd ac mae cryn amrywiaeth yn yr amcangyfrifon felly mae’n anodd asesu nifer yr achosion neu faint o bobl sydd angen y gwasanaeth hwn. Cydnabyddir y bu cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n dilyn opsiynau triniaeth a chynnydd yn nifer yr achosion o angen a fynegir.  Derbyniodd Clinig Caerdydd y 646 o atgyfeiriadau yn 2020-21, sef cynnydd o 26 y cant ers 2019-20.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Cyn creu Gwasanaeth Rhywedd Cymru roedd cleifion yng Nghymru â dysfforia rhywedd yn gorfod cael eu cyfeirio at Glinig Hunaniaeth Rhywedd Llundain er mwyn eu hasesu a’u trin. Mewn ymateb i’r galw cynyddol am wasanaethau hunaniaeth rhywedd yng Nghymru, yn 2016 darparodd Llywodraeth Cymru gyllid i Bwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru (WHSSC) i gefnogi’r gwaith o ddatblygu llwybr ar gyfer amrywiaeth rhywedd. Datblygwyd y gwasanaeth mewn cydweithrediad â Grŵp Partneriaeth Hunaniaeth Rhywedd Cymru Gyfan (AWGIPG) sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r gymuned drawsryweddol a defnyddwyr gwasanaeth.

Cafodd Umbrella Cymru ei gontractio i weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i ddarparu cymorth fel rhan o Wasanaeth Rhywedd Cymru. Mae'r Tîm Gwybodaeth a Chefnogaeth Rhywedd o Umbrella Cymru yn darparu cymorth i unrhyw un ar y rhestr aros sy’n dymuno cael mynediad iddo ac yn darparu cymorth fel gwybodaeth am y llwybr, cysylltiadau â grwpiau, cymorth o ran newid enw a magu hyder.

Wrth ymateb i’r ddeiseb, cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol fod y WHSSC yn ‘gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ehangu Gwasanaeth Rhywedd Cymru’. Roedd yr ymateb yn nodi y ‘darparwyd cyllid ychwanegol i Wasanaeth Rhywedd Cymru i gynyddu capasiti, lleihau amseroedd aros a chynyddu arbenigedd dros 3 blynedd’ a bod y ‘buddsoddiad hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu clinig ategol yng ngogledd Cymru’,

Gan gydnabod bod angen mwy o waith, dywedodd y Dirprwy Weinidog fod y rhestr aros wedi lleihau o 6 mis a bod Gwasanaeth Rhywedd Cymru wedi:

… llwyddo i recriwtio gweithwyr proffesiynol sydd ag arbenigedd ychwanegol, er enghraifft, i gynnal asesiadau llawfeddygol a fyddai wedi gofyn am atgyfeiriad o'r blaen i'r Clinig Hunaniaeth Rhywedd yn Llundain wedi’u cynnal gan Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Tavistock & Portman.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.